Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
15 Ionawr 2020
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6074
------
Cyhoeddodd y Llywydd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.75, bod y Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) wedi cael Cydsyniad Brenhinol ar 15 Ionawr.
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.21
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 2 a 7 gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 15.17
Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyhoeddiad gan Mondi ynghylch colledion swyddi ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy yn Sir y Fflint?
Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad mewn ymateb i adroddiadau ynghylch dyfodol Flybe a'i effaith ar faes awyr Caerdydd?
Dechreuodd yr eitem am 15.42
Gwnaeth Leanne Wood ddatgniad yn llongyfarch Wayne Warren o’r Rhondda wedi iddo ennill Pencampwriaeth Ddartiau BDO a chanmol y gamp.
Gwnaeth Sian Gwenllian ddatganiad yn dathlu’r ffaith bod Dafydd Iwan wedi cyrraedd brig gwerthiant iTunes gydag Yma o Hyd.
Gwnaeth Vikki Howells ddatganiad yn cofnodi 80 mlynedd ers genedigaeth Leighton Thomas Rees.
Dechreuodd yr eitem am 15.47
NDM7226 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar yr ymchwiliad i ffynonellau cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Tachwedd 2019.
Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Ionawr 2020.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 16.39
NDM7228 Bethan Sayed (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar addysgu hanes Cymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Tachwedd.
Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Ionawr 2020.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 17.37
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7229 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru :
1. Yn nodi’r cynnydd mewn adroddiadau o drais rhywiol yng Nghymru a Lloegr.
2. Yn mynegi cydymdeimlad ac undod â goroeswyr trais a chamdriniaeth rywiol.
3. Yn gresynu at fethiant parhaus nifer o systemau cyfiawnder troseddol ledled y byd i gynnig cefnogaeth i oroeswyr, a gresynu’r ffaith nad yw goroeswyr, yn rhy aml, yn cael eu credu ac yn cael eu gorfodi i ail-fyw profiadau erchyll drwy brosesau llys dwys, a diwylliannau mewn heddluoedd nad ydynt yn credu dioddefwyr.
4. Yn nodi bod erlyniadau ar gyfer trais rhywiol ac euogfarnau yng Nghymru a Lloegr ar eu lefelau isaf ers degawd, a bod gwella cyfraddau euogfarnu’n rhan hanfodol o strategaeth atal trais.
5. Yn nodi bod comisiwn Thomas wedi dadlau mai dim ond datganoli deddfwriaethol llawn, ar y cyd â phwerau gweithredol, fydd yn goresgyn rhwystrau’r setliad datganoli presennol o ran mynd i’r afael â diffyg cyfiawnder ac atebolrwydd y status quo.
6. Yn galw i gefnogaeth a gwasanaethau ymosodiad rhywiol fod ar gael a chael eu hariannu’n ddigonol, ac i lysoedd gael eu haddasu fel y bydd dioddefwyr yn teimlo eu bod yn cael eu hamddiffyn, nid eu dychryn, wrth roi tystiolaeth.
7. Yn galw i ddatganoli cyfiawnder fel y gallwn fynd i’r afael â’r cyfraddau euogfarnu isel hyn drwy fabwysiadu arfer gorau rhyngwladol ar gynyddu cyfraddau euogfarnu ac atal camdriniaeth a thrais rhywiol.
Adroddiad Y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru - Hydref 2019
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
35 |
2 |
12 |
49 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Dechreuodd yr eitem am 18.45
Dechreuodd yr eitem am 18.45
NDM7227 Mick Antoniw (Pontypridd)
Dathlu Arwyr Cymru: Cyfraniad arwyr Cymru i broffil rhyngwladol ein gwlad.
Daeth y cyfarfod i ben am 19.00
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 21 Ionawr 2020